












Y PARLWR TE YN Y FYNWENT ANIFEILIAID ANWES
Dewch am dro o amgylch tiroedd clodfawr y Fynwent Anifeiliaid Anwes a chanfod man unigryw lle mae gerddi prydferth, tiroedd, delwon, cerrig beddi a chofebion wedi’u cysegru i anifeiliaid anwes oedd yn annwyl iawn i’w perchnogion.
Canolfan Ymwelwyr a Pharlwr Te Traddodiadol (mae croeso i gŵn).
Enillwyr Mynwent y Flwyddyn 2004-2009, Gwobr Cymru Wledig 2006.
Llysgenhadon Gogledd Ddwyrain Cymru
Aelodau Cymdeithas Twristiaeth Sir y Fflint
Yn agored 7 diwrnod yr wythnos
Cyfeiriad: The Pet Cemetery, Brynffordd, Treffynnon, CH8 8AD
Ffôn: 01352 710500
E-bost: enquiries@petfuneralservices.co.uk
Gwefan: www.petfuneralservices.co.uk
Pantasaph a’i gymuned Ffransisgaidd
Ym mhentref Pantasaph, ychydig o filltiroedd i’r de o Dreffynnon, mae nifer o adeiladau Pabaidd Rhufeinig. Mae’r rhain yn cynnwys Eglwys Dewi Sant a adeiladwyd yn 1846 gan yr Is-iarll Fielding, a ddaeth yn ddiweddarach yn Iarll Dinbych, i goffáu ei briodas, Brodordy Ffransisgaidd a chanolfan encilio.
Cafodd y Brodordy Ffransisgaidd a’i adeiladau cysylltiol eu hadeiladu gan Is-iarll Fielding rhwng 1858 a 1865 yn dilyn ei dröedigaeth i’r ffydd Babyddol. Cafodd y gerddi eu gosod allan rhwng 1875 ac 1879.
Ar y bryn coedwigaidd tu nôl i’r brodordy mae Safleoedd y Groes, yn portreadu siwrnai Iesu Grist i Galfaria, a adeiladwyd yn ystod canol neu ddiwedd y 19eg ganrif. Gallwch weld y rhain drwy ddilyn llwybr igam-ogam amlwg drwy’r coed ac maent yn cynnwys 14 o safleoedd wedi eu gosod allan mewn cilfachau.
O ben y bryn mae golygfeydd dros dirlun dymunol i gyfeiriad Môr Iwerddon.
Brodordy Ffransisgaidd Pantasaph yw Cysegrfa Genedlaethol y Sant Pio.
Y cod post ar gyfer yr ardal hon yw CH8 8PE.
01352 711053
Melin Wynt Groes Onnen
Mae’n debyg y cafodd Melin Wynt Groes Onnen ei hadeiladu yn hwyr yn y 18fed Ganrif neu’n gynnar yn y 19eg Ganrif ond wedi daeth ei gwaith fel melin i ben erbyn y 1890au. Mae’r felin i’w gweld yn ardal Pen y Maes o’r dre ac mae hi’n dirnod lleol ac amlwg ac hefyd yn enghraifft prin yng Nghymru o felin wynt o uchder llawn sy’n dal i fodoli.
Cafodd y felin statws cofrestredig Safon II ym 1951 ac ers hynny mae’r adeilad wedi ei hadnewyddu a’i throi’n gartref i deulu.
Cod Post: CH8 7BB
Doc Maesglas
Doc Maesglas yw’r fan lle mae Nant Treffynnon, sy’n codi o Ffynnon Sanctaidd y Santes Gwenffrewi, yn llifo i mewn i aber yr Afon Dyfrdwy a dyma’r fan lle’r oedd pereririon o ogledd Lloegr a thu hwnt ers talwm yn glanio cyn teithio i fyny’r dyffryn i ymweld â’r gysegrfa sanctaidd hon.
Yn dilyn llawer blwyddyn o ddiofalwch a diffyg defnydd, heblaw gan rai pysgotwyr lleol, cafodd y doc a’r tir o’i gwmpas ei rentu rai blynyddoedd yn ôl i Grŵp Doc Maesglas, oedd yn cynnwys pysgotwyr a phreswylwyr lleol a phobl eraill oedd yn awyddus i weld y doc yn cael ei adnewyddu.
Ers hynny, mae gwaith adnewyddu sylweddol wedi digwydd, ac yn dal i ddigwydd i wella safon y doc ac, erbyn heddiw, gyda’r golygfeydd eang dros aber yr Afon Dyfrdwy a gorynys y Wirral, mae’n lle dymunol i ymweld ag o.
Mae Llwybr Cerdded a Beicio Arfordirol Gogledd Cymru’n pasio’n agos at y doc hefyd.
Coed Pen y Maes
Mae Coed Pen y Maes yn goed lled-hynafol sy’n ymestyn hyd at oddeutu 7½ hectar / 18 erw rhwng Treffynnon a Maesglas. Mae’r coed yn lle pleserus i ymweld â nhw unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond yn arbennig yn ystod y gwanwyn pan mae clychau’r gog yn blodeuo neu yn yr hydref pan mae’r lle’n llawn o liwiau cringoch ac aur.
Mae’r fynedfa i’r coed o Nant y Coed (CH8 7AZ) yn ardal Pen y Maes o’r dref ac, o’r fan honno, mae llwybr cyhoeddus yn ymdroelli drwy’r coed ac yn dod allan wrth yr A548, ffordd yr arfordir ym Maesglas, nepell o Crescent Farm.
Yn y coed hefyd mae safle daeareg o bwysigrwydd rhanbarthol a gosodwyd arddangosfwrdd yn agos i’r fan yn disgrifio ei bwysigrwydd. Mae hwn yn lle gwerth ei weld os byddwch yn ymweld â’r coed.
Yn rheoli Coed Pen y Maes mae Grŵp Ffrindiau Coed Pen y Maes a gafodd ei sefydlu yn 2005 ac mae ei aelodau’n weithgar iawn yn diogelu ei gymeriad naturiol ac yn gwarchod planhigion a bywyd gwyllt cynhenid y coed.
Naid y March
Naid y March yw’r fan lle cymerodd marchog chwedlonol o’r 16eg ganrif naid enfawr gan gan roi ei enw i’r ardal sydd yn dal i barhau hyd heddiw.
Dyma’r chwedl. Yn ystod y 1500au cynnar roedd Thomas Ap Harri ar ei ffordd adref gyda rhai o’i ffrindiau ar ôl bod yn hela ar Fynydd Helygain pan heriodd ei ffrindiau Harri i neidio ar ei geffyl dros un o’r siafftau mwyngloddio oedd yn niferus yn yr ardal.
Yn ddewr, neu efallai dan ddylanwad diod feddwol neu ddwy, derbyniodd Thomas y sialens a neidiodd ef a’i geffyl dros y siafft. Wedi hynny, cafodd y gamp ei choffáu trwy osod dau faen, gyda phellter o 25 troedfedd rhyngddynt, i ddangos ble neidiodd a ble y glaniodd Thomas a’i geffyl.
Rhoddwyd y ddau faen yn y fan lle neidiodd Thomas a’i geffyl dros y siafft i nodi ei gamp ac, erbyn heddiw, mae’r digwyddiad yn rhan o hanes yr ardal.
Cyfeirnod y Grid Cenedlaethol ar Naid y March yw: SJ171752.
Tŵr Gwylio Coed y Garreg
Mae Tŵr Gwylio Coed y Garreg ar y pwynt uchaf yng Nghoed y Garreg yn agos i bentref Chwitffordd* tua thair milltir i’r gorllewin o Dreffynnon.
Mae rhai pobl yn tybio bod y tŵr crwn carreg hwn yn hen oleudy Rhufeinig a adeiladwyd i dywys y llongau oedd yn mordwyo aber yr Afon Dyfrdwy. Mae pobl eraill yn tybio ei fod yn dŵr gwylio wedi ei adeiladu i rybuddio am ymosodiadau gan forladron.
Ar garreg sydd wedi ei gosod yn wal y tŵr, mae’r arysgrifen Saesneg sy’n dweud bod y tŵr wedi ei adfer gan Llewelyn Barwn Mostyn i goffáu 60 mlynedd o deyrnasiad gogoneddus Fictoria, brenhines ac ymerodres, Mehefin 20fed 1897.
Mae’n bosibl ymweld â’r twr ar hyd llwybrau cyhoeddus yn dechrau o bum cyfeiriad oddi ar lonydd distaw yn agos i bentref Chwitffordd, oll yn deithiau cerdded pleserus dros gaeau a choed. Yn agos i’r tŵr mae golygfeydd rhagorol i gyfeiriad bryniau Clwyd ac Eryri i un cyfeiriad a thuag at Gilgwri a bryniau Swydd Gaerhirfryn a bryniau Cymbria i’r cyfeiriad arall.
Cyfeirnod y Grid Cenedlaethol ar gyfer Tŵr Gwylio Coed y Garreg yw SJ146782.
Cofgolofn Pen y Bâl
Cafodd y gofgolofn hon, ar y rhan uchaf o Allt Pen y Bâl, sydd 820 o droedfeddi uwchlaw’r môr, ei naddu o garreg ardal Helygain a’i chodi yn 1893 i goffáu priodas Dug Caerefrog oedd, ar y pryd, yn etifedd i frenhinfainc Lloegr. Mae’r arysgrifen ar y garreg hefyd yn coffáu ei ddatganiad fel Brenin Siôr V yn 1910 a‘i ddathliad arian ym 1935.
O leoliad y gofgolofn, mae golygfeydd eang dros Gomin Brynffordd ac i gyfeiriad bryniau Clwyd ac Eryri.
Mae’r fynedfa i’r gofgolofn, boed mewn cerbyd neu ar droed, i fyny allt serth oddi ar ffordd yr A5026, a elwir yn Ffordd Parc y Fron, ac mae’r ffordd yn mynd trwy Dreffynnon.
Cyfeirnod y Grid Cenedlaethol ar gyfer Cofgolofn Paen y Bâl yw: SJ177755.
Mynydd Comin Helygain
Mae Mynydd Comin Helygain yn wastatir uchel nodedig o ryw 1,800 erw ar gyrrion tref Treffynnon. Mae’n ymestyn rhwng pentrefi Rhosesmor a Brynffordd ac mae iddo hanes o fwyngloddio, chwarela a phori sy’n mynd yn ôl i’r cyfnod Rhufeinig.
Mae’r tirlun heddiw’n adlewyrchiad o’r camddefnyddio diwydiannol hwn ond, fel y mae natur wedi adennill rhan helaeth o’r tir, mae Mynydd Comin Helygain wedi datblygu i fod yn fan poblogaidd i gerdded, i farchogaeth ag i wylio adar.
Mae Mynydd Comin Helygain yn awr yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal o Gadwraeth Arbennig.
I gael rhagor o wybodaeth am Fynydd Comin Helygain, ewch i: http://www.halkyn.org
Maen Achwyfan
Mae’r maen hwn, sy’n mesur rhyw 12 troedfedd o uchder a chanddo gerfiadau ar y paladr sy’n debyg iawn i grefftwaith Celtaidd a Llychlynaidd, yn un o gofebion gafaelgar hynafol Sir y Fflint ac yn Groesolwyn dalaf Prydain yn ôl y sôn.
Mae haneswyr y gorffennol wedi methu â phenderfynu ar union reswm, achos na dyddiad y garreg hon ond, y gred yw iddi gael ei chodi tua 1000 O.C. i fod yn Faen Galaru.
Mae’r maen gafaelgar hwn i’w weld yn agos at bentref Chwitffordd rhyw dair milltir i’r gorllewin o Dreffynnon wrth y groesffordd rhwng y pentref hwn a phentref Llanasa.