






BEICIO:
Nid oes llwybr beicio swyddogol yn pasio trwy Dreffynnon ond mae’n ffodus bod y dref wedi ei lleoli yng nghanol rhwydwaith o lonydd cul a distaw sy’n cysylltu’r dref efo tua dwsin o bentrefi darluniadol.
Mae’r lonydd yma’n pasio drwy ardaloedd gwledig heb eu difetha, rhai efo golygfeydd i gyfeiriad aber yr Afon Dyfrdwy ac ymhellach mewn un cyfeiriad a draw at fryniau Clwyd yn y cyfeiriad arall ac yn galluogi beicwyr i fwynhau ymchwilio a darganfod cefn gwlad Treffynnon yn hamddenol.
Er nad oes llwybr beicio swyddogol yn gwasanaethu’r dref, mae rhan o lwybr beicio cenedlaethol Sustrans, sef Llwybr 5, yn pasio yn agos. I’r dwyrain mae rhan o’r llwybr hwn yn gadael yr arfordir ym Magillt ac yn dringo’n serth i Gomin Brynffordd, rhyw 700 troedfedd/213m uwch y môr ac yn pasio tua milltir o Dreffynnon cyn disgyn i uno â’r llwybr arfordirol unwaith eto gerllaw Gronant.
PARKRUN DYFFRYN MAES GLAS
Beth yw Parkrun Dyffryn Maes Glas?
Mae’n ddigwyddiad cymunedol 5k wythnosol sy’n hwyliog, cyfeillgar a rhad ac am ddim. Gallwch gerdded, loncian, rhedeg, gwirfoddoli neu wylio – dewiswch chi!
Pryd mae hwn?
Bob dydd Sadwrn am 9:00 am (Pawb yn cwrdd wrth Bont Tesco yn Nhreffynnon).
Ymhle mae hwn?
Mae’n digwydd yn Nyffryn Maes Glas, Strand Walk, Treffynnon, Sir y Fflint, CH8 7AN. Gwelwch y dudalen Cyrsiau i gael rhagor o fanylion.
Faint mae’n gostio i ymuno?
Dim – mae’n rhad ac am ddim! Ond cofiwch gofrestru cyn i chi ddod am y tro cyntaf. Dim ond unwaith y dylech gofrestru gyda Parkrun a chofiwch ddod â chopi o’ch cod bar i’w sganio (gofynnwch am neges atgoffa). Os byddwch yn ei anghofio, ni fyddwch yn derbyn amseriad.
Pa mor gyflym sy’n rhaid i mi fod?
Mae pawb yn cymryd rhan er mwynhad. Dewch draw ac ymunwch â ni waeth pa mor gyflym neu araf ydych chi!
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod:
PYSGOTA:
Er nad yw ardal Treffynnon yn enwog fel canolfan i bysgota fel rhai ardaloedd eraill o Gymru, mae nifer o lefydd i bysgota yn yr ardaloedd gwledig o gwmpas y dref, yn cynnwys pysgota am bysgod bras, helgig neu bysgod dŵr hallt.
Un fantais fawr o bysgota mewn ardal nad yw’n enwog am bysgota wrth gwrs yw eich bod yn gweld llai o bysgotwyr eraill ac, ar rai diwrnodau, gallech hyd yn oed gael y bysgodfa i chi’ch hun, neu i chi a chyfaill yn unig.
Yn ogystal ag amser i chi’ch hun, mae dau beth arall y gall pob pysgotwr sy’n ymweld â’r ardal ddibynnu arno. Y cyntaf yw’r sicrwydd y bydd pob pysgodfa’n llawn o bysgod mawr a gweddol fawr sydd oll yn ymladd yn gryf. Yr ail yw pysgota mewn amgylchiadau heddychlon a phrydferth.
GOLFF:
Clwb Golff Treffynnon (CH8 8LQ)
Cwrs 18 twll ar Gomin Brynffordd sydd â thŷ clwb croesawgar ac arlwyo campus. Mae cerbydau golff ar gael ac mae croeso i gymdeithasau ac unigolion.
Clwb Golff Parc Pennant (CH8 9EP)
Cwrs 18 twll rhwng Treffynnon a phentre Chwitffordd sydd â maes ymarfer golff tŷ clwb. Mae’r aelodaeth yn agored ac mae croeso i ymwelwyr. Bydd cymdeithasau’n sicr o dderbyn croeso cynnes ac mae lluniaeth ar gael trwy’r dydd. Mae cerbydau golff ar gael a gostyngiadau ar brisiau chwarae golff ar ôl 4 o gloch.
Clwb Golff Kinsale (CH8 9DX).
Cwrs naw twll yn Llannerch-y-môr rhwng Treffynnon a phentref Mostyn. Mae cyfleusterau eraill yno, yn cynnwys: maes ymarfer golff, maes trawsyrru 12 bae a byncer ymarfer. Mae nifer o gerbydau golff ar gael i’w llogi ac mae lluniaeth ar gael yn y tŷ clwb.
Marchogaeth
Linden Farm Riding & Trekking Centre (CH8 8JT)
Mae Linden Farm Riding & Trekking Centre yn ganolfan marchogaeth a marchogol ym mhentref Rhes y Cae ger Treffynnon. Mae’r ganolfan yn cynnig gwersi marchogaeth, teithiau ar geffylau ar gomin Helygain a chyfleusterau marchogol eraill yn cynnwys ystablu, cyfrwyo a lifrai.
Bridalwood Riding Centre & Livery Yard (CH8 9JN)
Mae Bridalwood yn ganolfan hyfforddiant marchogaeth ar Fferm Maes y Coed, Ty’n y Morfa, Gwespyr gerllaw Treffynnon sy’n cynnig gwersi marchogaeth a hefyd nifer o wasanaethau eraill yn cynnwys stablu, cyfrwyo a lifrai.
Canolfan Marchogaeth Parc Pennant (CH8 9JN)
Mae Canolfan Marchogaeth Parc Pennant ar Lôn Llwyn Ifor, Chwitffordd ger Treffynnon ac mae’n ganolfan sy’n cynnig gwersi marchogaeth, hyfforddiant, marchogaeth yng nghefn gwlad a nifer o wasanaethau eraill sy’n ymwneud â cheffylau.
Cerdded
Mae ardal Treffynnon wedi ei chris-groesi gan rwydwaith o lwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffyl a lonydd gweledig distaw ac mae’n ffinio â 1,800 erw Mynydd Comin Brynffordd a Helygain.
Mae Cangen Treffynnon a’r Cyffiniau o’r Gymdeithas Croeso i Gerddwyr wedi paratoi pum taith gylchol o’r dre. Mae manylion y teithiau hyn i’w gweld ac i’w lawrlwytho ar: http://www.holywellramblers.org.uk/f-Hwalks.htm
Mae manylion am deithiau cerddded eraill ar gael hefyd ar y gwefannau: www.ramblersnorthwales.org.uk a Flintshire countryside
Mae gan Dreffynnon ei chlwb ei hun ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn cerdded, sef: Clwb Crwydro Treffynnon ac mae manylion pellach ar gael ar www.holywellramblers.org.uk Mae’r clwb bywiog hwn yn ffynhonnell cyfoethog o wybodaeth defnyddiol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerdded yn lleol, trwy ogledd Cymru a thu hwnt.
Llwybr Treftadaeth Treffynnon
Man cychwyn Llwybr Treftadaeth Treffynnon yw’r Stryd Fawr lle gwelir nifer o adeiladau gwych sy’n arwydd o’r cyfoeth a gynhyrchodd y diwydiant cotwm a chopr yn Nyffryn Maes Glas yn y Ddeunawfed Ganrif. [PDF taflen]
AMBIWLANS SANT IOAN CYMRU
Mae dwy adran yn Sant Ioan; Ieuenctid ac Oedolion. Mae’r adran Ieuenctid wedi ei rhannu’n 2 grŵp pellach; Cadets a Badgers.
Mae’r Badgers ar gyfer plant iau rhwng 5 ac 11 oed, a byddent yn cwblhau’r dyfarniad Super Badger sy’n ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau a meysydd yn cynnwys cymorth cyntaf. Maen nhw hefyd yn cael y cyfle i fynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau a redir yn rhanbarthol, yn cynnwys y gwersyll Badgers.
Mae’r Cadets i blant a phobl ifanc 11-18 oed a byddent yn ennill cymhwyster cymorth cyntaf ac yn gallu mynd i ddigwyddiadau cyhoeddus fel gweithwyr cymorth cyntaf ochr yn ochr â’r oedolion. Byddent hefyd yn cwblhau’r dyfarniad Grand Prior a’r Her Amalfi. Cynigir amrywiaeth ehangach o weithgareddau i Gadetiaid hefyd, fel Cystadlaethau, Dyletswyddau Rhanbarthol a chyrsiau Arweinyddiaeth.
Yn yr adran Oedolion ehangach, mae amrywiaeth o rolau ar gael, o waith cefnogi i aelodau gweithredol sy’n mynd i ddigwyddiadau cyhoeddus, i arweinwyr Ieuenctid. Darperir yr hyfforddiant i gyd. Mae pob aelod yn derbyn hyfforddiant i gwblhau cymhwyster cymorth cyntaf sylfaenol er bod cefnogaeth hefyd i gwblhau lefelau uwch pellach, yr holl ffordd hyd lefel Cymhorthydd Cludo Cleifion.
Sganiwch y cod QR i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru.

Cyffredinol
North Wales SphereMania (CH8 8SN)
Mae canolfan North Wales SphereMania yn lle i roi hwyl i’r teulu ar Fferm Bryn Coch, Chwitffordd yn agos i Dreffynnon ac mae’n atyniad lle gallwch fwynhau’r profiad o rholio ac adlamu i lawr y llethrau’n ddiogel mewn pêl chwydd fawr.
Chwaraeon pelipaent
Os hoffech gael profiad cyffrous o chwaraeon pelipaent, ewch i safle Go Ballistic yn agos i Helygain, rhyw bedair milltir o Dreffynnon sydd ond ychydig lathenni oddi ar ffordd gyflym yr A55. Dyma’r lle i chi os ydych yn chwilio am rhywbeth gwahanol y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn ei gofio.
Mae’r safle mewn 86 erw o goedwig wedi ei rannu’n ddeg ardal chwarae gyda thema, er enghraifft Y Maes Awyr, Man Glanio Hofrenyddion a Fietnam, lle byddwch chi a’ch tîm yn cystadlu mewn amrywiaeth eang o weithgareddau bywiog a ffyrnig yn erbyn eich ‘gelynion’.