Gogledd Ddwyrain Cymru
Y PROSIECT IBEACON
Cyflwyniad
Mae Cadwyn Clwyd wedi sicrhau arian i sefydlu rhwydwaith o lwybrau ibeacon ledled Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam yn ystod 2017. Mae’r ymgynghorwyr dehongli treftadaeth Jo Danson, Lorna Jenner a Bill Smuts wedi eu penodi i weithio gyda deunaw cymuned i ddatblygu’r llwybrau mewn partneriaeth â Locly, y cwmni meddalwedd.
Beth yw ibeacons?
Mae ibeacons yn ddyfeisiau electronig bychan sy’n gadael i chi ddweud straeon wrth bobl drwy eu ffonau clyfar neu lechen am safle penodol, yn y lleoliad perthnasol hwnnw, heb fod angen wi-fi.
Sut mae ibeacons yn cyd-fynd â’r dulliau esbonio presennol?
Mae ibeacons yn cynnig ffordd gyffrous a modern o ennyn diddordeb pobl a gwella eu profiad drwy roi gwybodaeth berthnasol, amlgyfrwng sy’n gallu gweithio’n dda ochr yn ochr â chyfryngau traddodiadol megis panelau a thaflenni.
Yn debyg i bob esboniad, mae’r neges yn bwysicach na’r cyfrwng ac mae’n hanfodol cynllunio’n ofalus ac adrodd straeon mewn ffordd greadigol.
Mae’r defnyddwyr yn lawrlwytho’r ap naill ai gartref neu mewn llecyn wi-fi ac yna gallent weld y cynnwys sy’n gallu bod yn lluniau, sain neu fideo wrth iddynt archwilio’r llwybr.
I gael rhagor o fanylion am yr ap…
Mae’r ibeacons yn gollwng darnau byr o ddata syml gan ddefnyddio technoleg Bluetooth 4.0 / Bluetooth Ynni Isel (BLE) ac maent wedi’u rhaglennu i anfon neges hysbysu drwy ffôn clyfar neu lechen y defnyddiwr pan fyddent yn synhwyro eu bod gerllaw.
Canfod Trysorau Treffynnon
Llwybrau digidol
1. Gwesty Stamford Gate, y Porth i Dreffynnon
Stamford Gate (tollty)
Yr olygfa, yn cynnwys y felin wynt
Lluesty
Clwb Pêl-droed Tref Treffynnon
2. The Victoria Stryd Fawr Canol Tref Treffynnon
Tafarnau
Panton Place
Bank Place
3. Bank Place
Rheilffordd Dyffryn Maesglas
Cyflwyniad i Ddyffryn Maesglas
4. Ffynnon Santes Gwenffrewi
Ffynnon Santes Gwenffrewi
Y Felin Decstilau
Gwastadedd Holway
5. Y Gweithiau Curo
Y Gweithiau Curo
Tai’r Fasnach Gaethweision/Y Gweithiau Curo
Y Tŵr Cloc
6. Y Felin Gotwm Isaf
John Jones
Pos Geiriau Cotwm
Clawdd Watt
Melin Wifrau’r Abaty
7. Cloddfa Parys maes parcio Copr
Y Gwaith Copr
Thomas Williams
8. Y Ganolfan Ymwelwyr Amgueddfa Maesglas Ysgol Springfield
Cyflwyniad i’r amgueddfa
Tŷ Dinas Basing
Abaty Dinas Basng
Tall Tales
9. Maes Parcio Bysiau, Gwneud Papur
Pwll Pysgota Dinas Basing
Gwneud Papur
10. Doc Maesglas
Doc Maesglas
Arfordir Sir y Fflint