



















Ffynnon Sanctaidd y Santes Gwenffrewi
Mae chwedl Santes Gwenffrewi’n adrodd hanes pennaeth lleol a blin yn 660OC a dorrodd ben Gwenffrewi ifanc i ffwrdd ar ôl iddi wrthod ei gynigion. Mae’n dweud bod ffynnon wedi codi o’r ddaear yn y fan lle syrthiodd ei phen a bod ei hewythr, Sant Beuno, wedi rhoi ei bywyd yn ôl iddi.
Daeth y ffynnon yn adnabyddus am ei gallu i wella pobl a thrwy’r canrifoedd, ac hyd yn oed heddiw, mae pererinion yn teithio yma yn eu miloedd o bob rhan o’r byd i drochi yn ei dŵr ac addoli ger ei chysegrfa sydd wedi dod yn enwog fel Lourdes Cymru.
01352 713054
Abaty Dinas Basing
Roedd gweddillion mawreddog Abaty Dinas Basing, a sefydlwyd yn 1132, yn gartref a gweithle am 400 o flynyddoedd i fynachod Urdd y Sistersiaid nes y cawsent eu gyrru oddi yno gan Ddeddf Diddymu Harri VIII yn 1536.
Yn ystod yr oesoedd canol, datblygodd cymuned economaidd ac artistig lewyrchus o amgylch yr abaty a daeth yn gartref i nifer o feirdd Cymru.
Y mynachod oedd y cyntaf i harneisio pŵer Nant Treffynnon, gan ddefnyddio ei ynni i falu ŷd a thrin gwlân eu preiddiau defaid.
01352 714172
Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas
Mae Parc Treftadaeth a Gwledig Dyffryn Maes Glas yn barc unionlin 1 ½ milltir ar ei hyd sy’n dilyn cwrs Nant Treffynnon rhwng y dref ac aber yr Afon Dyfrdwy, a thrwy hwn y rheda’r rheilffordd lled arferol gonfensiynol fwyaf serth yn y DU.
Yma, yn ogystal â Ffynnon Sanctaidd Santes Gwenffrewi ac Abaty Dinas Basing o’r 12fed ganrif, mae gweddillion nifer o felinau hanesyddol, y mae nifer ohonynt yn henebion cofrestredig erbyn hyn
Yn fwy diweddar, mae bythynnod, ffermdai ac hyd yn oed ysgol Fictoraidd wedi’u symud yma, carreg wrth garreg o leoliadau eraill. Cawsent eu hailadeiladu’n ofalus a’u dodrefnu fel y byddent wedi edrych efallai mewn canrifoedd a fu.
Mae gan y parc hefyd amgueddfa fferm ynghyd â pheiriannau, offer ac anifeiliaid y buarth, ac amgueddfa wedi’i neilltuo’n arbennig i’r naturiaethwr a’r fforiwr byd enwog a aned yn lleol, Thomas Pennant.
Gall ymwelwyr hefyd fwynhau nifer o deithiau cerdded sy’n ymlwybro drwy’r coedwig.