
















Saith Rhyfeddod Cymru
CROESO I DREFFYNNON
Daw’r enw Treffynnon o brif nodwedd y dref, sef Ffynnon Sanctaidd fyd-enwog Santes Gwenffrewi o’r 7fed ganrif; un o Saith Rhyfeddod Cymru.
Mae’r dref farchnad draddodiadol Gymreig hon yn swatio mewn darn prydferth o gefn gwlad yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy’n edrych allan dros foryd yr Afon Dyfrdwy, ac ychydig iawn y mae hi wedi newid dros y canrifoedd diwethaf. Mae tystiolaeth o hynny yn ei hamrywiaeth cyfoethog o adeiladau hyfryd o ddiwedd y cyfnod Georgaidd a chyfnod Fictoria.
Ar un cyfnod, Treffynnon oedd yn darparu’r dŵr a’r llafur i bweru’r ffatrïoedd a’r melinau oedd yn datblygu yn nyffryn Maesglas gerllaw yn ystod y 18fed ganrif. Gallwch weld gweddillion yr adeiladau hyn ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maesglas. Heddiw, mae’r dref gyda’i mannau siopa braf di-draffig, yn lle llawer mwy heddychlon sy’n ateb gofynion siopa a hamdden ymwelwyr a thrigolion lleol fel ei gilydd. Cysylltwch ar // 01352 714172
Canol Tref Treffynnon
Yng nghanol ddi-draffig heddychlon a hynod y dref hanesyddol hon, gall ymwelwyr ymlacio a phrofi bywyd sydd bron â mynd yn angof erbyn hyn yn ein cymdeithas brysur a chyflym ni.
Yn y fan yma gallwch gerdded neu eistedd yn gyfforddus a rhyfeddu ar bensaernïaeth mwy na 60 o adeiladau rhestredig, gwylio ac efallai edmygu arafwch bywyd y bobl leol neu fwynhau edrych ar y cynnyrch sydd ar werth mewn bron i gant o siopau bach y mae’r mwyafrif ohonynt yn fusnesau teulu.
Dewch i ymweld â’r dref ar Ddydd Iau a gallwch hefyd fwynhau gweld marchnad stryd awyr agored liwgar ac, ar rai dyddiau Sadwrn yn ystod yr haf cewch fwynhau adloniant cerddorion stryd sy’n cael eu denu yma oherwydd awyrgylch gyfeillgar a theuluol y dref.
I gael rhagor o wybodaeth gyffredinol, ffoniwch 01745 710333
I gael rhagor o wybodaeth am Farchnad Treffynnon ffoniwch 07919 166279
Panton Place
Adeiladwyd Panton Place ar gyfer Paul Panton yr ieuengaf (1758-1822) a Sirydd Sir y Fflint yn 1815. Cafodd yr 16 o dai eu hadeiladu i ddarparu cartrefi a llefydd gweithio ar gyfer pobl broffesiynol a masnachwyr lleol.
Dros y blynyddoedd cafodd y tai eu defnyddio i amryw o bwrpasau. Sefydlwyd Swyddfa Bost mewn un yn 1822 a chafodd o leiaf un tŷ ei ddefnyddio fel ysgol. Mae’r holl adeiladau wedi eu rhestru fel enghreifftiau pwysig o dai trefol o’r oes honno.
Giatiau Coffa
Cafodd y giatiau coffa, y rheiliau a’r colofnau cerrig yn cynnwys tabledi coffa a leolwyd yn y fynedfa o Panton Place i Barc y Fron eu codi ar ôl yr ail ryfel byd i anrhydeddu’r 110 o ddynion o Dreffynnon a gollodd eu bywydau yn ystod y ddau ryfel byd.
Cod Post: CH8 7LD
Canolfan Hamdden Treffynnon
Mae Canolfan Hamdden Treffynnon yn un o’r canolfannau hamdden gorau yng Ngogledd Cymru ac mae’n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau dan do ac awyr agored.
Mae’r rhain yn cynnwys pyllau nofio bach a phwll maint llawn a chyfle i chwarae sboncen, badminton, pêl raced, snwcer, tennis bwrdd, a llu o chwaraeon eraill.
Mae gan y ganolfan hamdden hefyd ystafell gadw’n heini, sawna, canolfan gwelyau haul a jacwsi yn ogystal â crèche, caffi a bar trwyddedig.
01352 355100
Parc y Fron
Dim ond tafliad carreg o ganol tref braf Treffynnon yw Parc y Fron a byddwch yn mynd iddo drwy gatiau haearn gyr hardd a godwyd i gofio am y dynion o Dreffynnon a laddwyd yn ystod y ddau ryfel byd. Mae’n llecyn heddychlon braf.
Yma gall ymwelwyr grwydro’r llwybrau sy’n ymlwybro heibio’r gwelyau blodau a thrwy’r llwyni, gallwch orffwys ennyd yn y gerddi coffa llawn blodau neu ymlacio wrth wylio neu hyd yn oed gymryd rhan mewn gêm hamddenol o fowlio neu dennis cyflym ar un o gyrtiau tennis y parc.