Darganfod Paradwys Pysgotwyr Treffynnon

Pysgota yng Ngogledd Cymru

Mae nifer o gyfleoedd genweirio yn yr ardal wledig o amgylch y dref, p’un ai pysgota bras, brithyll neu ddŵr heli sy’n mynd â’ch bryd.

Un o fanteision pysgota diwrnod yn rhywle heblaw’r ardaloedd ‘pot mêl’ pysgota sydd wedi eu hysbysebu’n dda, wrth gwrs, yw bod llai o bysgotwyr yno ac, weithiau mewn rhai pysgodfeydd, mae hyd yn oed yn bosib canfod bod gennych y lle i chi’ch hun, neu i chi’ch hun a ffrind.

Efallai nad yw ardal Treffynnon yn un o’r prif fannau pysgota ond, yn ogystal â’r llonyddwch o fod ar eich pen eich hun, mae dau beth arall y gall pob pysgotwr sy’n ymweld â’r lle ei fwynhau. Y cyntaf yw bod yr holl bysgodfeydd wedi’u stocio’n dda gyda physgod ymladd caled o faint da. Yr ail yw amgylchedd heddychlon a phrydferth.


Pysgodfeydd pysgod bras

Pysgodfa Fferm Glasdir (CH8 8BD)

Y Nant, Pentre Helygain. Pwll cystadlaethau a phwll pysgod mawr.  Mae’r math o bysgod ar gael yn cynnwys:  cerpynnod gloyw, cerpynnod cyffredin, ysgretanod, gwrachod y baw a rhuddgochiaid.  Mae taclau pysgota ac abwyd ar gael yno hefyd.
I gael rhagor o fanylion ac i ganfod sut i ddod o hyd i’r bysgodfa, ffoniwch 01352 781303.

Pysgodfa Carp Castell Gyrn (CH8 9BG)

Mae Pysgodfa Carp Castell Gyrn ym mhentref Llanasa ger Treffynnon yn cynnwys dau lyn; un o dair erw a’r llall yn un erw.  Y math o bysgod i’w dal yna yw: cerpynnod, draenogiaid, rhuddgochiaid ac ysgretanod.
I gael rhagor o fanylion ac i ganfod sut i ddod o hyd i’r lle, ffoniwch 01745 561672 neu 07765 076582, neu ewch i: http://www.gyrncastle.com

Pysgodfa Melin y Sarn (CH7 5RH)

Mae Pysgodfa Melin y Sarn, sy’n agos i ffordd A541 rhwng Nannerch ac Afonwen yn cynnwys pedwar llyn; dau yn dal pysgod bras a dau yn dal brithylliaid.  Y math o bysgod bras i’w dal yna yw: cerpynnod, ysgretanod, gwrachod y baw a rhuddgochiaid.
I gael rhagor o fanylion ffoniwch 01352 720854 neu gyrrwch e-bost i: sarnmillfisheries@ukonline.co.uk<mailto:sarnmillfisheries@ukonline.co.uk

yn Sir y Fflint

Pysgodfeydd pysgod gêm

Forest Hill Fishery (CH8 9EQ)

Mae Forest Hill Fishery, sy’n agos i bentre Chwitffordd, yn bysgodfa pedwar llyn.  Mae’r llynnoedd wedi eu stocio â brithylliaid dugoch a brithylliaid seithliw. Mae’r bysgodfa’n cynnig gwersi pysgota ac mae siop fferm yno.
I gael rhagor o fanylion ac i ganfod sut i ddod o hyd i’r i’r bysgodfa, ffoniwch: 01745 560151

Pysgodfa Melin y Sarn (CH7 5RH)

Mae Pysgodfa Melin y Sarn, sy’n agos i ffordd A541 rhwng Nannerch ac Afonwen, yn cynnwys pedwar llyn; dau yn dal brithylliaid dugoch a brithylliaid seithliw a dau yn dal pysgod bras.
I gael rhagor o fanylion ffoniwch 01352 720854 neu gyrrwch e-bost i: sarnmillfisheries@ukonline.co.uk<mailto:sarnmillfisheries@ukonline.co.uk

Sea fishing in North Wales

Seawater Fishing

Aber yr Afon Dyfrdwy

Mae pysgota dŵr hallt bendigedig i’w gael yn aber yr Afon Ddyfrdwy, yn arbennig rhwng Fflint a Thalacre.
Ymysg y math o bysgod y gellir eu dal yno mae: lledod brych, lledod bach, lledod y llaid, llyswennod, congrod, môr-wyniaid, penfreision, hyrddiaid, lledod chwithig a draenogod y môr.
Mae mynedfa at lan yr afon i geir a thros lwybrau troed oddi ar ffordd yr arfordir, yr A548, mewn nifer o leoliadau.

© Holywell Town Council 2026 | Website by Daydream Designs